Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 17 Medi 2015 |
|
||||
Amser: |
12.45 - 14.35 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(4)2015(11) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd) Peter Black AC Angela Burns AC Sandy Mewies AC Rhodri Glyn Thomas AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau, Comisiwn y Cynulliad Nicola Callow, Cyfarwyddwr Cyllid Nerys Evans, Pennaeth y Gwasanaeth, Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau Sulafa Thomas, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Datganiad o fuddiant
Ni chafwyd datganiad o fuddiant.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd bod cofnodion 9 Gorffennaf yn gofnod cywir.
2 Cyllideb 2016-17
Ystyriodd y Comisiynwyr ddrafft terfynol dogfen y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17. Roeddent yn teimlo bod y ddogfen yn adlewyrchu'r strategaeth a'r dull gweithio yr oeddent wedi cytuno arnynt cyn toriad yr haf.
Cytunodd y Comisiynwyr ar y drafft i'w osod, gan ddiolch i'r swyddogion am yr holl waith a oedd wedi'i wneud er mwyn paratoi.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ailwampio'r Siambr
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf, yn gryno, gan y Cyfarwyddwr Adnoddau am yr hyn a gyflawnwyd yn ystod toriad yr haf o ran y cynlluniau i ailwampio'r Siambr.
Roedd gan y Comisiynwyr ddiddordeb arbennig yn yr hyblygrwydd a'r manteision y byddai'r darpariaethau newydd yn eu cyflwyno. Croesawyd y wybodaeth a'r manylion am y cynllun cyfredol yn arwain at gyfnod y Diddymiad/toriad y Pasg 2016.
4 Gosod Teledu Cylch Cyfyng newydd
Trafododd y Comisiynwyr gynigion i osod system Teledu Cylch Cyfyng newydd ar Ystâd y Cynulliad, gan ofyn am ragor o wybodaeth i'w galluogi i wneud penderfyniad terfynol.
5 Dodrefn newydd
Adolygodd y Comisiwn wybodaeth a oedd wedi'i darparu ynglŷn â'r angen i adnewyddu swyddfeydd yn Nhŷ Hywel a ddefnyddir gan Aelodau'r Cynulliad.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r gwaith o adnewyddu swyddfeydd yr Aelodau fod yn rhan o'r rhaglen dreigl barhaus o waith cynnal a chadw ar ystâd y Cynulliad.
6 Y wybodaeth ddiweddaraf a Chofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg - 9 Gorffennaf 2015
Rhoddodd y Dirprwy Lywydd wybod i'r Comisiwn am gyfarfod diweddaraf Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad, a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf.
Nododd mai prif ddiben y cyfarfod oedd cytuno ar ddrafft terfynol yr Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon. Teimlai'r Pwyllgor fod yr Adroddiad Blynyddol yn ddogfen nodedig a chynhwysfawr, a chroesawodd y ffigur alldro terfynol sef tanwariant o 0.1%.
Nododd y Comisiwn y cofnodion.
7 Unrhyw fater arall
Cafodd y materion canlynol eu hystyried, a chytunwyd arnynt, trwy ohebiaeth yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn: